Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Tystiolaeth Ychwanegol
Yn ystod sesiwn dystiolaeth ar 17eg Hydref 2024 trafodwyd ychydig ar gynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi Dysgu Cymraeg i’r Gweithlu Addysg.
Holwyd yn benodol ar y dulliau y byddai’n posib eu defnyddio wrth weithredu cynllun i gefnogi Dysgu Cymraeg i’r Gweithlu Addysg i’r dyfodol.
Dyma gynnig fanylion ychwanegol i’r Pwyllgor yn ychwanegol at yr hyn a gyflwynwyr yn y sesiwn dystiolaeth.
Cefndir
Yn nhymor y Gaeaf 2023 cynhaliodd y Ganolfan astudiaeth o’r cyfleoedd cyfredol i’r Gweithlu Addysg ddysgu a datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Roedd yr Astudiaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad o ffeithiau a chyfweliadau a gynhaliwyd gan ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y Cyngor Gweithlu Addysg, Cyfarwyddwyr Addysg a chynrychiolwyr o ranbarthau.
Cyflwynodd y Ganolfan yr Astudiaeth, ynghyd â’r argymhellion at Adran Addysg Llywodraeth Cymru ar gychwyn 2024, gan dderbyn £500,000 o gyllid ar gyfer darparu rhaglen genedlaethol i ddysgu a datblygu’r Gymraeg i’r Gweithlu Addysg ar gyfer blwyddyn ariannol 24-25.
Mae’r Ganolfan o’r farn y dylid ystyried cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau yn y Gymraeg fel rhan lawn o’r egwyddor o Ddysgu Proffesiynol. Mae gwella sgiliau Cymraeg y Gweithlu Addysg yn dull pendant o weithredu gofynion Cwricwlwm i Gymru, y Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol ac yn ddull o godi safonau Llythrennedd Cymraeg plant a phobl ifanc.
Egwyddorion
Wrth lunio’r cynnig penderfynwyd ar ambell egwyddor craidd:
· Bod y cynnig yn un cenedlaethol, ac ar gael i aelodau’r Gweithlu Addysg ym mhob Ysgol yng Nghymru
· Bod elfen o’r cynnig yn rhoi ffocws mwy dwys ar weithio gydag ysgolion/clystyrau o ysgolion ble mae newid ieithyddol wedi’i gynllunio drwy Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yr Awdurdodau Lleol
· Bod y cyrsiau yn rhoi ffocws ar fethodoleg dysgu a ellid ei roi ar waith mewn ystafell ddosbarth, a hynny er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar gynnydd plant a phobl ifanc yn y Gymraeg
· Bod pob cwrs yn seiliedig ar Gwricwlwm Dysgu yn Ganolfan, sydd wedi’i alino gyda’r CEFR, ac felly’n ystyrlon o ran ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn diffinio data ynghylch safonau unigolion yn y Gymraeg a geir drwy’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Addysg a’r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i ymarferwyr addysg
Cynnig
O ran cynnwys, mae’r cynnig yn 2024-25 yn cynnig y mathau canlynol o ddarpariaeth:
· Hunanastudio gyda chefnogaeth tiwtor
· Ystod o gyrsiau i gynorthwy-wyr Dysgu Dysgu Sylfaen
· Ymagwedd ysgol gyfan i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd, a chreu ethos Gymraeg mewn ysgol
· Cyrsiau dysgu bloc
· Cyrsiau preswyl
· Cyrsiau ar gyfer ysgolion unigol neu glystyrrau
· Cyrsiau wedi’u targedu i ysgolion penodol, yn unol â thargedau CSGA yr Awdurdod Lleol
Mae’r cynnig hefyd wedi targedu’r meysydd o dwf fyddai ei angen ar ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf i’r dyfodol e.e drwy ddarparu cwrs ar ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn gwersi Addysg Gorfforol yn y sector Uwchradd gyfrwng Saesneg.
Mae’r cynnig uchod ar gael o lefel Mynediad (A1) gyda at lefel Gloywi (C1).
Mae’r cynnig i gyd yn rhad ac am ddim.
Mae’r cynnig wedi’i gyflwyno i ystod o randdeiliad, a chyfarfod wedi’i gynnal gyda phob un Awdurdod Lleol er mwyn adnabod anghenion a threfnu darpariaeth briodol.
Mae’r Ganolfan hefyd wedi gweithio gyda darparwyr Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon eleni. Mewn ymateb i adroddiad thematig Estyn ar y ddarpariaeth i ddatblygu sgiliau iaith darpar athrawon mae’r Ganolfan wedi creu Adnodd Dysgu penodol ar gyfer y sector. Mae’r Adnodd yn cwrdd â’r meini prawf i ddarparu 35 awr o ddatblygu sgiliau iaith personol yn ystod y cwrs, ac wedi’i lunio ar bob haen o’r cwricwlwm Dysgu Cymraeg (A1-C1). Mae sicrhau perthynas gyda chyrsiau Dysgu Cymraeg ar gychwyn gyrfa yn fodd effeithiol o barhau menw cyswllt â’r darpar athrawon i gynnig mwy o gyfleoedd iddynt ar hyd eu gyrfa.
Camau nesaf
Mae ymateb cychwynnol i’r rhaglen wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda dros 800 o’r Gweithlu Addysg yn barod wedi cofrestru ar y cyrsiau ers Medi 2024. Nod y cynllun yw darparu ar gyfer hyd at 2,000 o’r Gweithlu Addysg erbyn Medi 2025.
Bydd Haf 2025 yn gyfle i arfarnu effeithiolrwydd blwyddyn gyntaf y cynllun, a diwygio ymhellach i gwrdd â gofynion ysgolion. Mae seiliau cadarn eisoes wedi’u gosod sy’n caniatau datblygu’r ddarpariaeth ymhellach i’r dyfodol.
Tra bod y cynnig i’r Gweithlu Addysg am ddim, mae’n amlwg yn her gynyddol i ysgolion ryddhau athrawon a chynorthwy-wyr o’u dyletswyddau i’w caniatau i elwa o’r cynnig. Wrth i’r adolygiad haen ganol fynd rhagddo, a threfniadau newydd gael eu datblygu, bydd angen sicrhau eglurder bod cyllid digonol oddi fewn i elfen Grant y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdodau Lleol i gefnogi amser rhyddhau staff.
Mae’r Ganolfan yn ffyddiog bod modd yn bendant i dyfu’r cynllun ymhellach a thrwy hynny boddio anghenion niferoedd uwch o’r Gweithlu Addysg, ac yn ei dro cyflawni nodau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r Bil Addysg a’r Gymraeg (Cymru).